Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym

Cynnwys y traethawd ymchwil hwn bedair astudiaeth ar waith Dafydd ap Gwilym. O ran methodoleg, defnyddir nifer o ddulliau, gan gynnwys beirniadaeth destunol a beirniadaeth lenyddol. Y mae penodau 1 a 3 yn destunol eu pwyslais, gan fynd i’r afael â llawysgrifau cymharol gynnar lle y ceir enghreifftia...

Full description

Bibliographic Details
Main Authors: Thomas, S, Owen Thomas
Other Authors: Charles-Edwards, T
Format: Thesis
Language:Welsh
Published: 2008
Subjects:
_version_ 1826315414946185216
author Thomas, S
Owen Thomas
author2 Charles-Edwards, T
author_facet Charles-Edwards, T
Thomas, S
Owen Thomas
author_sort Thomas, S
collection OXFORD
description Cynnwys y traethawd ymchwil hwn bedair astudiaeth ar waith Dafydd ap Gwilym. O ran methodoleg, defnyddir nifer o ddulliau, gan gynnwys beirniadaeth destunol a beirniadaeth lenyddol. Y mae penodau 1 a 3 yn destunol eu pwyslais, gan fynd i’r afael â llawysgrifau cymharol gynnar lle y ceir enghreifftiau o waith Dafydd ap Gwilym. Rhydd yr ail bennod sylw i lythrennedd yn yr Oesoedd Canol ac yn y bennod olaf eir i’r afael â barddoniaeth Dafydd ap Gwilym drwy roi sylw manwl i amwysedd ei farddoniaeth. Yn y bennod gyntaf cymhwysir beirniadaeth destunol at Beniarth 48, un o’r llawysgrifau cynharaf lle y ceir casgliad o gerddi gan Ddafydd ap Gwilym, gan roi sylw manwl i’r cywydd anorffenedig amheus ei awduraeth ‘Credaf i Naf y nefoedd’, gan gynnig y dylid ystyried ei fod o bosibl yn gerdd ddilys gan Ddafydd ap Gwilym. Trafodir dylanwad llythrenendd y bedwaredd ganrif ar ddeg ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn yr ail bennod, a chesglir bod Dafydd ap Gwilym yn gyfarwydd â’r ffenomen hon mewn cyd-destun seciwlar yn ogystal â chyd-destun eglwysig. Canolbwyntia’r drydedd bennod ar Beniarth 52, lle y ceir dau gywydd gan Ddafydd ap Gwilym yn ogystal â cherddi gan Ddafydd Nanmor. Cedwir mewn cof mai endid ansefydlog yw canon llenyddol a chodir cwr y llen ar ddylanwad Dafydd ap Gwilym ar Ddafydd Nanmor. Yn y bennod olaf, trafodir amwysedd ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym a dadleuir bod ei farddoniaeth yn fwy na chanu confensiynol neu loddest eiriol o ystrydebau serch oherwydd bod ei hamwysedd, o bob math—boed yn eiriau unigol, yn ddelwedd estynedig, yn strwythur tanorweddol neu’n gymhleth o emosiynau’r bardd—yn byrlymu i’r wyneb ac yn cynysgaeddu’i gerddi â phrofiad llenyddol ehangach.
first_indexed 2024-03-06T18:05:00Z
format Thesis
id oxford-uuid:01243099-54e4-4298-b804-ddb28d83aed2
institution University of Oxford
language Welsh
last_indexed 2024-12-09T03:25:15Z
publishDate 2008
record_format dspace
spelling oxford-uuid:01243099-54e4-4298-b804-ddb28d83aed22024-12-01T08:49:48ZAilddarlleniadau o waith Dafydd ap GwilymThesishttp://purl.org/coar/resource_type/c_db06uuid:01243099-54e4-4298-b804-ddb28d83aed2Literatures of other languagesWelshOxford University Research Archive - Valet2008Thomas, SOwen ThomasCharles-Edwards, TEvans, DCynnwys y traethawd ymchwil hwn bedair astudiaeth ar waith Dafydd ap Gwilym. O ran methodoleg, defnyddir nifer o ddulliau, gan gynnwys beirniadaeth destunol a beirniadaeth lenyddol. Y mae penodau 1 a 3 yn destunol eu pwyslais, gan fynd i’r afael â llawysgrifau cymharol gynnar lle y ceir enghreifftiau o waith Dafydd ap Gwilym. Rhydd yr ail bennod sylw i lythrennedd yn yr Oesoedd Canol ac yn y bennod olaf eir i’r afael â barddoniaeth Dafydd ap Gwilym drwy roi sylw manwl i amwysedd ei farddoniaeth. Yn y bennod gyntaf cymhwysir beirniadaeth destunol at Beniarth 48, un o’r llawysgrifau cynharaf lle y ceir casgliad o gerddi gan Ddafydd ap Gwilym, gan roi sylw manwl i’r cywydd anorffenedig amheus ei awduraeth ‘Credaf i Naf y nefoedd’, gan gynnig y dylid ystyried ei fod o bosibl yn gerdd ddilys gan Ddafydd ap Gwilym. Trafodir dylanwad llythrenendd y bedwaredd ganrif ar ddeg ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn yr ail bennod, a chesglir bod Dafydd ap Gwilym yn gyfarwydd â’r ffenomen hon mewn cyd-destun seciwlar yn ogystal â chyd-destun eglwysig. Canolbwyntia’r drydedd bennod ar Beniarth 52, lle y ceir dau gywydd gan Ddafydd ap Gwilym yn ogystal â cherddi gan Ddafydd Nanmor. Cedwir mewn cof mai endid ansefydlog yw canon llenyddol a chodir cwr y llen ar ddylanwad Dafydd ap Gwilym ar Ddafydd Nanmor. Yn y bennod olaf, trafodir amwysedd ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym a dadleuir bod ei farddoniaeth yn fwy na chanu confensiynol neu loddest eiriol o ystrydebau serch oherwydd bod ei hamwysedd, o bob math—boed yn eiriau unigol, yn ddelwedd estynedig, yn strwythur tanorweddol neu’n gymhleth o emosiynau’r bardd—yn byrlymu i’r wyneb ac yn cynysgaeddu’i gerddi â phrofiad llenyddol ehangach.
spellingShingle Literatures of other languages
Thomas, S
Owen Thomas
Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym
title Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym
title_full Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym
title_fullStr Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym
title_full_unstemmed Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym
title_short Ailddarlleniadau o waith Dafydd ap Gwilym
title_sort ailddarlleniadau o waith dafydd ap gwilym
topic Literatures of other languages
work_keys_str_mv AT thomass ailddarlleniadauowaithdafyddapgwilym
AT owenthomas ailddarlleniadauowaithdafyddapgwilym